Blog Archifau Morgannwg: Darganfod Gorffennol Morgannwg

Canllawiau Ymchwil

Mae Archifau Morgannwg wedi cynhyrchu nifer o ganllawiau ymchwil ar bynciau a chyfresi cofnodion poblogaidd i helpu i chi gychwyn ar eich gwaith ymchwil.

Chwilio’r Catalog

Mae ein catalog, Canfod, yn cynnwys disgrifiadau o dros 180,000 o eitemau yn ein casgliad ac mae’n cael ei ddiweddaru’n gyson gyda disgrifiadau o gofnodion newydd a dderbynnir a chatalogau newydd a grëir

Sut i ddod o hyd i ni

Gwybodaeth ar sut i ddod o hyd i ni ar droed, yn y car, ar y bws ac ar y tren

Mae Archifau Morgannwg yn gwasanaethu Cynghorau Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg Caerffili, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhodda Cynon Taf, a Dinas a Sir Caerdydd.

Digwyddiadau

Mae Archifau Morgannwg yn trefnu nifer o ddigwyddiadau AM DDIM ac mae croeso i unrhyw un fynychu.  Seiliwyd ein digwyddiadau ar themâu sydd â chysylltiad â’n casgliadau ac sy’n ymwneud a’r gymuned rydym yn ei gwasanaethu.

Cadwch lygad ar ein tudalen digwyddiadau i ddarganfod beth sydd ar y gweill!

Digwyddiad

'William Burges – Gothic Revival Genius' gan Matthew Williams

'William Burges – Gothic Revival Genius' gan Matthew Williams

  • 17/04/2024
  • 11:00 am - 12:00 pm
  • Archifau Morgannwg, Leckwith, Cardiff.

    Ymunwch a Matthew Williams, darlithydd, awdur a darlledwr, wrth iddo drafod bywyd a gwaith William Burges, yr athrylith a greodd rhai o adeiladau mwyaf eithriadol yr 19eg ganrif, gan gynnwys Castell Caerdydd a Chastell Coch. Darganfyddwch mwy am fyd ecsentrig Burges a’i greadigaethau hynod.

     

    Ymwelwch â’r Stiwdio Cadwraeth yn Archifau Morgannwg i ddysgu mwy am ein prosiect cyfredol i gadw casgliad helaeth darluniadau a chynlluniau Burges, a grëwyd ar gyfer yr Ardalydd Bute ac a drosglwyddwyd yn ddiweddar i’r Archifau o Gastell Caerdydd. Cefnogwyd y prosiect yma gan y National Manuscripts Conservation Trust.

     

    Cafodd Matthew Williams ei hyfforddi fel hanesydd celf a phensaernïaeth cyn troi at Astudiaethau Amgueddfeydd.  Mae’n arbenigwr cydnabyddedig ar waith y dylunydd William Burges, bu’n Curadur ar Gastell Caerdydd am gyfnod hir, ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth mewn cyfnodolion celf a phensaernïaeth. Mae’n darlithio ar ddyluniad ac mae ganddo ddiddordeb penodol yn y 19eg ac 20fed ganrif. Etholwyd yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr yn 2019.

     

    Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.

     

    Mae sgwrs Matthew Williams am 11yb.  Bydd teithiau o’r stiwdio yn cael ei drefnu am 10.30, 12 a 12.20.  Byddwn yn cysylltu ar wahân i drefnu amser.

     

    Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, rydych yn cadarnhau eich bod yn fodlon inni ddanfon gohebiaeth e-bost atoch mewn perthynas â’r digwyddiad yma yn unig. Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei storio na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

     

    https://www.ticketsource.co.uk/glamorgan-archives/william-burges-gothic-revival-genius-by-matthew-williams/2024-04-17/11:00/t-gaglapx


    Arddangosfa

    No Events

    Cysylltu

    Ebostiwch, ysgrifennwch neu ffoniwch os oes gennych unrhyw gwestiynau neu i brynu eitem o’n siop

    Mae Archifau Morgannwg yn anelu at ateb pob ymholiad a dderbyniwyd o bell o fewn 15 diwrnod gwaith.

      Eich enw (gofynnol)

      Ffôn

      Eich e-bost (gofynnol)

      Pwnc (dewiswch)

      Eich neges

      © Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

      Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd