Ymweld â ni

Mae Archifau Morgannwg yn derbyn archebion am seddi yn yr ystafell chwilio gyhoeddus ar gyfer y sesiynau canlynol:

Dydd Mawrth 09.30 – 12.30 and 1.30 – 4.30

Dydd Gwener 09.30- 12.30 and 1.30 – 4.30

Dydd Iau 09.30- 12.30 and 1.30 – 4.30

Sut i ddod o hyd i ni

Cyfeiriad:
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg
Lecwydd
CAERDYDD
CF11 8AW

Ffôn:     (029) 2087 2200
E-bost:             GlamRO@cardiff.gov.uk

Gwyliau Banc a dyddiadau pan fyddwn ar gau.

Bydd Archifau Morgannwg ar gau y dyddiau canlynol

Wythnos y Nadolig: 22 Rhagfyr 2023 – 1 Ionawr 2024

Wythnos Casgliadau:

26 Chwefror – 1 Mawrth 2024

10-14 Mehefin 2024

18-22 Tachwedd 2024

Cyn i chi ymweld

Gweithdrefnau Archebu Archifau Morgannwg

 

Sut ydw i’n archebu lle?

Y ffordd orau o archebu yw drwy e-bost.  Cysylltwch â ni yn glamro@caerdydd.gov.uk

Os na fyddwch yn defnyddio e-bost gallwch gysylltu â ni dros y ffôn ar 029 2087 2299.

Canllawiau archebu

Peidiwch ag archebu lle os ydych chi, neu unrhyw un yn eich cartref, yn dangos unrhyw symptomau Covid19:

  • tymheredd
  • peswch
  • colli’ch synnwyr arogli neu flasu

Ein horiau agor yw Dydd Mawrth – Dydd Iau, 9.30yb – 12.30yp a 1.30yp -4.30yp.

Nodwch y byddwn yn cau am awr dros ginio.

Rhaid archebu lle o flaen llaw.

Wrth archebu lle, rhowch wybod os hoffech ymweld yn y bore, y prynhawn neu am ddiwrnod cyfan. Os rydych wedi ymweld â ni o’r blaen ac wedi cofrestri gydag Archifau Morgannwg, gofynnwn i chi roi i ni rhif eich cerdyn a/neu linell gyntaf eich cyfeiriad.

Mae pob archeb ar gyfer un person yn unig. Os bydd dau neu fwy o bobl yn dymuno ymweld gyda’i gilydd, bydd angen achebu sedd ar gyfer pob person.

Os oes angen defnyddio stand camera arnoch, archebwch hwn ymlaen llaw wrth gadw eich bwrdd a’ch dogfennau

Gallwch gysylltu â’n wi-fi cyhoeddus am ddim gan ddefnyddio eich dyfais eich hun

Ni allwn gynnig cyngor ac arweiniad hanes teuluol wyneb yn wyneb ar hyn o bryd.  Cysylltwch â ni drwy e-bost gyda’ch ymholiad a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.

Wrth ymweld ag Archifau Morgannwg

Cofiwch ddod â phensil gyda chi pan fyddwch yn ymweld. Ni chaniateir beiros yn yr ystafell ymchwilio.

Os ydych chi’n dod â dyfais sydd angen gwefru, gwnewch yn siŵr ei bod wedi’i gwefru’n llawn. Ni allwn warantu mynediad at soced pŵer.

Os oes angen i chi dalu am wasanaethau reprograffig, mae’n well talu ar-lein.  Gall y staff drefnu hyn yn ôl y gofyn.

Mae ein toiledau ar agor.

Canslo

Os oes angen i chi ganslo eich archeb, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn neilltuo eich lle i ymwelydd arall.

Hygyrchedd

Mae adeilad Archifau Morgannwg yn gwbl hygyrch.

Sut rydym yn sicrhau bod eich ymweliad mor ddiogel â phosibl

Mae holl ddodrefn ac offer yr ystafell chwilio yn cael eu glanhau’n rheolaidd.

Rydym yn gweithredu polisi dwylo glân llym yn Archifau Morgannwg.  Bydd staff yn golchi / diheintio eu dwylo’n drylwyr cyn cynhyrchu unrhyw ddogfennau i’w defnyddio yn yr ystafell ymchwil.

Cofrestru

I ddefnyddio ystafell chwilio Archifdy Morgannwg bydd angen i chi gofrestru ar eich ymweliad cyntaf. Byddwn yn gofyn am rai manylion, gan gynnwys eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn cartref a gwybodaeth am eich ymchwil. Bydd eich llun hefyd yn cael ei dynnu.

I gwblhau’r broses gofrestru bydd gofyn i chi gytuno â’r rheolau chwilio a dangos dau ddull adnabod, un yn cynnwys eich enw (e.e. trwydded yrru, cerdyn banc/credyd, pasbort) ac un arall yn dangos eich cyfeiriad (e.e. bil cyfleustodau, bil treth gyngor, llythyr/dogfen swyddogol – gyda dyddiad o fewn y tri mis diwethaf). Os na allwch ddarparu dogfennau o’r fath, am ba reswm bynnag, siaradwch ag aelod o’r staff a fydd yn eich helpu i ddefnyddio’r gwasanaeth.

Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael cerdyn cofrestru y bydd angen i chi ddod ag ef bob tro y dewch i Archifdy Morgannwg.

Deddf Gwarchod Data 1998: ni fydd y wybodaeth a rowch yn cael ei rhoi i unrhyw un arall ac fe’i cedwir at ddibenion mewnol yn unig.

Ar gyfer gwasanaethau llywio lloeren neu fap rhyngrwyd, ein cod post yw CF11 8AW. Mae Clos Parc Morgannwg wedi’i leoli ychydig oddi ar Sloper Road.

Os gallwch weld Stadiwm newydd Dinas Caerdydd, dydych chi ddim yn bell oddi wrthon ni. Rydyn ni gyferbyn â Pharc Manwerthu Capital, dim ond mynediad i gerddwyr sydd rhwng ein safle a’r siopau.

Mae gwybodaeth am ddulliau trafnidiaeth ar Traveline Cymru, Ymholiadau National Rail, Trenau Arriva Cymru, Bws Caerdydd. Mae Newyddion Traffig a Chamerâu ar gael gan y BBC.

Teithio ar y Trên

O Gaerdydd Canolog, ewch ar y trên i orsaf Grangetown neu Barc Ninian. Mae Grangetown ar linell Penarth ac mae Parc Ninian ar linell City Link i gyfeiriad Radur. Mae trenau Radur yn gadael pob hanner awr, a threnau Grangetown yn gadael pob 8-10 munud.

Os ydych yn teithio o ogledd Caerdydd gallwch adael y trên yn Radur a mynd ar unrhyw drên sy’n teithio ar y City Link i Coryton. Mae’r rhain yn teithio drwy Barc Ninian ar eu ffordd i Gaerdydd Canolog. Mae trenau’r City Link yn rhedeg bob ryw hanner awr.

Teithio ar y Bws

O tu ôl Llyfrgell Ganolog Caerdydd ewch ar fysus gwasanaeth 1 neu 2. Mae’r rhain yn teithio o gylch y ddinas. Mae’n haws dal y Rhif 1 i’r swyddfa a’r rhif 2 oddi yno. Mae’r ddau wasanaeth hyn yn stopio yn y safle bws sydd agosaf at yr Archifau, ac yn mynd ddwywaith yr awr. Neu gallwch ddal rhifau 92, 93, 94 neu 95 sydd oll yn stopio ar waelod Sloper Road. Mae taith gerdded o ryw 10 munud oddi yno i’r Archifau.

Teithio yn y Car

Wrth ddod o ganol dinas Caerdydd, ewch ar yr A4161 ar hyd Heol y Castell ac yna Heol Ddwyreiniol y Bont-faen. Yna teithiwch ar Wellington Street, ewch i’r chwith yn yr ail allanfa ar y gyffordd pum cyfeiriad i Leckwith Road, sydd ag arwydd yn dangos Penarth a Dinas Powys. Ewch o dan ddwy bont reilffordd ac yna trowch i’r chwith i Sloper Road ar groesffordd a reolir gan oleuadau traffig. Ewch am chwarter milltir; wrth i chi basio Stadiwm Dinas Caerdydd, bydd Clos Parc Morgannwg ar y dde i chi – mae arwydd twristiaeth brown wrth y mynediad i’r ffordd.

O’r tu allan i Gaerdydd, ewch i Gyffordd 33 ar yr M4 ac yna gadael y draffordd i ymuno â’r A4232. Ar ôl 6 milltir gadewch yr A4232 ar droad y B4267, sydd ag arwydd Stadiwm Dinas Caerdydd wrthi. Gadewch y gylchfan ar yr allanfa gyntaf, i Leckwith Road (B4267). Gyrrwch am hanner milltir, gan basio Parc Manwerthu Capital a Stadiwm Dinas Caerdydd ar y dde i chi. Wrth groesfan a reolir gan oleuadau traffig, yn union cyn pont reilffordd, trowch i’r dde i Sloper Road. Ewch am chwarter milltir; wrth i chi basio Stadiwm Dinas Caerdydd, bydd Clos Parc Morgannwg ar y dde i chi – mae arwydd twristiaeth brown wrth y mynediad i’r ffordd.

Mae gennym gyfleusterau parcio beiciau a cheir. Mae’r maes parcio yn cael i’w chloi pan mae’r swyddfa’n cau

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd